LLAI O DDEWIS YN YSTOD DYDDIAU’R WYTHNOS
Sylwer, mae gennym lai o ddewis ar y fwydlen rhwng 14:30 a 17:00 yn ystod yr wythnos ar hyn o
bryd.
FFONIWCH Y BWYTY OS YDYCH YN GRIW O FWY NA 6:
Ni fydd ychwanegu gwesteion ychwanegol at yr adran ceisiadau o’r archeb ar-lein yn sicrhau rhagor
o seddi.
CYFRWCH BOB AELOD O’CH CRIW:
Rhaid i blant a babanod gael sedd hefyd - cofiwch eu cynnwys yn eich archeb.
AMSEROEDD AGOR Y BWYTY:
Rydym ar agor o 11am tan yn hwyr bob dydd o'r wythnos. Rydym yn argymell archebu lle os oes
modd, ond pan fydd yn bosibl fe dderbyniwn y rhai sy’n cerdded i mewn.
ORIAU AGOR Y GEGIN:
Rydym yn gweini bwyd o 12pm tan yn hwyr bob dydd o'r wythnos. Os nad ydych wedi archebu
ffoniwch i wneud yn siŵr ein bod yn dal i weini bwyd.
ARCHEBU DROS Y FFÔN:
Does dim modd derbyn negeseuon llais i archebu lle. Dim ond pan fyddwch yn siarad ag aelod o’n
tîm archebu y bydd archeb wedi ei rhoi.
CEISIADAU AM SEDDI:
Nodwch na allwn warantu ceisiadau am fyrddau mewn rhannau penodol o’n bwytai. Ni ellir archebu
lle y tu allan ymlaen llaw, hyd yn oed pan ofynnir am hynny.
BWYTA GYDA CHŴN:
Mae byrddau ar gael ym mhob un o'n bwytai ar gyfer y rhai sydd â chŵn sy'n ymddwyn yn dda. Os
ydych chi'n bwriadu dod â’ch ci i’r bwyty, rhowch wybod i ni wrth archebu!
Mae croeso i gŵn sy'n ymddwyn yn dda ym mhob un o'n bwytai nes bydd y bwyd nos yn cael ei
weini am 5-6pm.
Diolch.