Y bwyty cyntaf a roddodd wynt yn hwyliau ein taith ar hyd Arfordir Gogledd Cymru.
Mae'r bwyty hwn yn meddu ar steil fodern gyda thema iard gychod, ond mae hefyd yn manteisio ar harddwch naturiol eithriadol y morlin lleol, gyda golygfeydd o Afon Menai o bron bob bwrdd, a Phont Grog y Borth yn gefnlen i'r cyfan. Roedd y safle yn galw am fwyd môr, bara ffres newydd ei bobi, a phwyslais ar y cynnyrch lleol rhagorol a geir o'r môr a'r bryniau cyfagos.
Rydym yn hoffi meddwl ein bod wedi gwneud ein gorau glas i hyrwyddo ein rhanbarth rhyfeddol, ac rydym yn ymdrechu i roi'r un croeso personol 'nawr ag a roesom ym mis Mai 2012, pan aethom ati'n frwdfrydig i agor y bwyty am y tro cyntaf.
Rydym wedi datblygu ein bwydlen a'n cegin, yn ogystal ag amgáu ein llain deras i lawr y grisiau er mwyn cynnig golygfeydd syfrdanol o Afon Menai ymhob tywydd.
Dewch am dro i weld drosoch chi eich hun.