Mae dod o hyd i adeiladau hardd, sy'n parhau i gyfleu ein cariad at y môr, ac sy'n ein galluogi i gynnig profiadau unigol i gwsmeriaid, yn her hynod o gyffrous.
Unwaith eto, trwy hap a damwain pur y llwyddom i brynu hen Westy'r Washington yng Nghraig y Don, Llandudno, sy'n sefyll ar ben pellaf y bae a'r rhodfa Fictoraidd odidog yn Llandudno. Dyma ein trydydd safle, a'r safle mwyaf hyd yma, ac rydym yn credu bod gennym yr ystafell fwyta fwyaf rhyfeddol i fyny'r grisiau, sy'n cynnig golygfeydd o'r môr, ynghyd â llain deras hyfryd ac ardal yfed a bwyta cysurus ar y llawr gwaelod. Mae gennym lond gwlad o gynlluniau o ran y modd y gallwn wella profiad ein cwsmeriaid ymhellach wrth i ni roi ail wynt i'r hen adeilad crand hwn, a hynny mewn ffordd sy'n gweddu i gynlluniau gwreiddiol ac ysgubol y pensaer lleol gwreiddiol, Arthur Hewitt..