2012.
Nid yw'n teimlo mor bell â hynny'n ôl, ond mae cymaint wedi digwydd. Ledled y byd a hefyd yn ein cartref ein hunain. Mae Gogledd Cymru wedi datblygu'n gyrchfan fywiog fyd-eang i ymwelwyr, a hynny'n gywir ddigon.
Rydym wedi gwneud ein datganiad o genhadaeth yn fantra parhaus, sef
Dathlu cynnyrch lleol, cymeriad a phrydferthwch naturiol Gogledd Cymru.
Rydym yn credu ein bod wedi gwneud ein cyfran deg o ddathlu, ac yn credu y dylech chithau ddathlu hefyd.
Mae cwrdd â chynifer o gynhyrchwyr gwych, recriwtio cynifer o staff gweithgar a brwdfrydig, yn ogystal â gwneud ffrindiau â chwsmeriaid sy'n parhau i ymweld â ni o wythnos i wythnos ac o flwyddyn i flwyddyn, wedi bod yn brofiad llawn cyffro. Rydym yn gobeithio annog ymwelwyr o bedwar ban byd i fwynhau'r lleoliad arbennig hwn. Ond, rydym hefyd yn gobeithio ein bod wedi llwyddo i ailennyn diddordeb y rheiny sy'n ddigon ffodus i fyw yma ar hyd eu hoes.
Am le anhygoel.